Hen Destament

Testament Newydd

Actau 11:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Clywodd yr apostolion a'r credinwyr yn Jwdea fod y Cenhedloedd hefyd wedi derbyn gair Duw.

2. Pan ddaeth Pedr i fyny i Jerwsalem, dechreuodd plaid yr enwaediad ddadlau ag ef,

3. a dweud, “Buost yn ymweld â dynion dienwaededig, ac yn cydfwyta gyda hwy.”

4. Dechreuodd Pedr adrodd yr hanes wrthynt yn ei drefn.

5. “Yr oeddwn i,” meddai, “yn nhref Jopa yn gweddïo, a gwelais mewn llesmair weledigaeth: yr oedd rhywbeth fel hwyl fawr yn disgyn ac yn cael ei gollwng o'r nef wrth bedair congl, a daeth hyd ataf.

6. Syllais i mewn iddi a cheisio amgyffred; gwelais anifeiliaid y ddaear a'r bwystfilod a'r ymlusgiaid ac adar yr awyr.

7. A chlywais lais yn dweud wrthyf, ‘Cod, Pedr, lladd a bwyta.’

8. Ond dywedais, ‘Na, na, Arglwydd; nid aeth dim halogedig neu aflan erioed i'm genau.’

9. Atebodd llais o'r nef eilwaith, ‘Yr hyn y mae Duw wedi ei lanhau, paid ti â'i alw'n halogedig.’

10. Digwyddodd hyn deirgwaith, ac yna tynnwyd y cyfan i fyny yn ôl i'r nef.

11. Ac yn union dyma dri dyn yn dod ac yn sefyll wrth y tŷ lle'r oeddem, wedi eu hanfon ataf o Gesarea.

12. A dywedodd yr Ysbryd wrthyf am fynd gyda hwy heb amau dim. Daeth y chwe brawd hyn gyda mi, ac aethom i mewn i dŷ'r dyn hwnnw.

13. Mynegodd yntau i ni fel yr oedd wedi gweld yr angel yn sefyll yn ei dŷ ac yn dweud, ‘Anfon i Jopa i gyrchu Simon, a gyfenwir Pedr;

14. fe lefara ef eiriau wrthyt, a thrwyddynt hwy achubir di a'th holl deulu.’

15. Ac nid cynt y dechreuais lefaru nag y syrthiodd yr Ysbryd Glân arnynt hwy fel yr oedd wedi syrthio arnom ninnau ar y cyntaf.

16. Cofiais air yr Arglwydd, fel yr oedd wedi dweud, ‘Â dŵr y bedyddiodd Ioan, ond fe'ch bedyddir chwi â'r Ysbryd Glân.’

17. Os rhoddodd Duw, ynteu, yr un rhodd iddynt hwy ag i ninnau pan gredasom yn yr Arglwydd Iesu Grist, pwy oeddwn i allu rhwystro Duw?”

18. Ac wedi iddynt glywed hyn, fe dawsant, a gogoneddu Duw gan ddweud, “Felly rhoddodd Duw i'r Cenhedloedd hefyd yr edifeirwch a rydd fywyd.”

Darllenwch bennod gyflawn Actau 11