Hen Destament

Testament Newydd

Actau 10:31-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

31. ac meddai, ‘Cornelius, y mae Duw wedi clywed dy weddi di ac wedi cofio am dy elusennau.

32. Anfon, felly, i Jopa a gwahodd atat Simon, a gyfenwir Pedr; y mae hwn yn lletya yn nhÅ· Simon y barcer, wrth y môr.’

33. Felly anfonais atat ar unwaith, a gwelaist tithau yn dda ddod. Yn awr, ynteu, yr ydym ni bawb yma gerbron Duw i glywed popeth a orchmynnwyd i ti gan yr Arglwydd.”

34. A dechreuodd Pedr lefaru: “Ar fy ngwir,” meddai, “rwy'n deall nad yw Duw yn dangos ffafriaeth,

35. ond bod y sawl ym mhob cenedl sy'n ei ofni ac yn gweithredu cyfiawnder yn dderbyniol ganddo ef.

36. Y gair hwn a anfonodd i blant Israel, gan gyhoeddi Efengyl tangnefedd drwy Iesu Grist; ef yw Arglwydd pawb.

37. Gwyddoch chwi'r peth a fu drwy holl Jwdea, gan ddechrau yng Ngalilea wedi'r bedydd a gyhoeddodd Ioan—Iesu o Nasareth,

Darllenwch bennod gyflawn Actau 10