Hen Destament

Testament Newydd

Actau 1:11-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. ac meddai'r rhain, “Wŷr Galilea, pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua'r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i'r nef, yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i'r nef.”

12. Yna dychwelsant i Jerwsalem o'r mynydd a elwir Olewydd, sydd yn agos i Jerwsalem, daith Saboth oddi yno.

13. Wedi cyrraedd, aethant i fyny i'r oruwchystafell, lle'r oeddent yn aros: Pedr ac Ioan ac Iago ac Andreas, Philip a Thomas, Bartholomeus a Mathew, Iago fab Alffeus a Simon y Selot a Jwdas fab Iago.

14. Yr oedd y rhain oll yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi, ynghyd â rhai gwragedd a Mair, mam Iesu, a chyda'i frodyr.

15. Un o'r dyddiau hynny cododd Pedr ymysg y credinwyr—yr oedd tyrfa o bobl yn yr un lle, rhyw gant ac ugain ohonynt—ac meddai,

16. “Gyfeillion, rhaid oedd cyflawni'r Ysgrythur a ragddywedodd yr Ysbryd Glân trwy enau Dafydd am Jwdas, yr un a ddangosodd y ffordd i'r rhai a ddaliodd Iesu;

17. oherwydd fe'i cyfrifid yn un ohonom ni, a chafodd ei ran yn y weinidogaeth hon.”

18. (Fe brynodd hwn faes â'r tâl am ei ddrygwaith, ac wedi syrthio ar ei wyneb fe rwygodd yn ei ganol, a thywalltwyd ei berfedd i gyd allan.

19. A daeth hyn yn hysbys i holl drigolion Jerwsalem, ac felly galwyd y maes hwnnw yn eu hiaith hwy eu hunain yn Aceldama, hynny yw, Maes y Gwaed.)

20. “Oherwydd y mae'n ysgrifenedig yn Llyfr y Salmau:“ ‘Aed ei gartrefle yn anghyfannedd,heb neb yn byw ynddo’,“a hefyd:“ ‘Cymered arall ei oruchwyliaeth.’

21. “Felly, rhaid i un o'r rhai a fu yn ein cwmni ni yr holl amser y bu'r Arglwydd Iesu yn mynd i mewn ac allan yn ein plith ni,

22. o fedydd Ioan hyd y dydd y cymerwyd ef i fyny oddi wrthym, ddod yn dyst gyda ni o'i atgyfodiad ef.”

23. Ystyriwyd dau: Joseff, a elwid Barsabas ac a gyfenwid Jwstus, a Mathias.

24. Yna aethant i weddi: “Adwaenost ti, Arglwydd, galonnau pawb. Amlyga p'run o'r ddau hyn a ddewisaist

25. i gymryd ei le yn y weinidogaeth a'r apostolaeth hon, y cefnodd Jwdas arni i fynd i'w le ei hun.”

26. Bwriasant goelbrennau arnynt, a syrthiodd y coelbren ar Mathias, a chafodd ef ei restru gyda'r un apostol ar ddeg.

Darllenwch bennod gyflawn Actau 1