Hen Destament

Testament Newydd

3 Ioan 1:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Gyfaill annwyl, yr wyt ti'n gwneud peth teilwng wrth wasanaethu'r cyfeillion, a hwythau'n ddieithriaid.

6. Y maent hwy wedi tystio gerbron yr eglwys i'th gariad di; da ti, rho iddynt ar eu taith gymorth teilwng o Dduw.

7. Oherwydd er mwyn yr Enw yr aethant allan, heb dderbyn dim gan y Cenhedloedd.

8. Felly dylem ni gynorthwyo pobl o'r fath, er mwyn inni fod yn gydweithwyr dros y gwirionedd.

9. Ysgrifennais air at yr eglwys, ond nid yw Diotreffes, sy'n chwenychu bod yn ben arnynt, yn derbyn ein hawdurdod.

10. Felly, pan ddof, byddaf yn galw sylw at yr hyn y mae'n ei wneud, yn clebran yn ein herbyn â geiriau drygionus; ac yn wir, nid yw'n fodlon ar eiriau—y mae'n gwrthod derbyn y cyfeillion, ac yn gwahardd y rhai sydd am eu derbyn, ac yn eu bwrw allan o'r eglwys.

Darllenwch bennod gyflawn 3 Ioan 1