Hen Destament

Testament Newydd

2 Timotheus 4:9-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Gwna dy orau i ddod ataf yn fuan,

10. oherwydd rhoddodd Demas ei serch ar y byd hwn, a'm gadael. Aeth ef i Thesalonica, a Crescens i Galatia, a Titus i Dalmatia.

11. Luc yn unig sydd gyda mi. Galw am Marc, a thyrd ag ef gyda thi, gan ei fod o gymorth mawr i mi yn fy ngweinidogaeth.

12. Anfonais Tychicus i Effesus.

13. Pan fyddi'n dod, tyrd â'r clogyn a adewais ar ôl gyda Carpus yn Troas, a'r llyfrau hefyd, yn arbennig y memrynau.

14. Gwnaeth Alexander, y gof copr, ddrwg mawr imi. Fe dâl yr Arglwydd iddo yn ôl ei weithredoedd.

15. Bydd dithau ar dy wyliadwriaeth rhagddo, oherwydd y mae wedi gwrthwynebu ein cenadwri ni i'r eithaf.

16. Yn y gwrandawiad cyntaf o'm hamddiffyniad, ni safodd neb gyda mi; aeth pawb a'm gadael; peidied Duw â chyfrif hyn yn eu herbyn.

17. Ond safodd yr Arglwydd gyda mi, a rhoddodd nerth imi, er mwyn, trwof fi, i'r pregethu gael ei gyflawni ac i'r holl Genhedloedd gael ei glywed; a chefais fy ngwaredu o enau'r llew.

18. A bydd yr Arglwydd eto'n fy ngwaredu i rhag pob cam, a'm dwyn yn ddiogel i'w deyrnas nefol. Iddo ef y byddo'r gogoniant byth bythoedd! Amen.

19. Rho fy nghyfarchion i Prisca ac Acwila, a theulu Onesifforus.

20. Arhosodd Erastus yng Nghorinth, a gadewais Troffimus yn glaf yn Miletus.

21. Gwna dy orau i ddod cyn y gaeaf. Y mae Eubwlus a Pwdens a Linus a Clawdia, a'r cyfeillion oll, yn dy gyfarch.

22. Yr Arglwydd fyddo gyda'th ysbryd di! Gras fyddo gyda chwi!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Timotheus 4