Hen Destament

Testament Newydd

2 Timotheus 2:16-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

16. Gochel siarad gwag rhai bydol, oherwydd agor y ffordd y byddant i fwy o annuwioldeb,

17. a'u hymadrodd yn ymledu fel cancr. Pobl felly yw Hymenaeus a Philetus;

18. y maent wedi gwyro oddi wrth y gwirionedd, gan honni bod ein hatgyfodiad eisoes wedi digwydd, ac y maent yn tanseilio ffydd rhai pobl.

19. Ond dal i sefyll y mae'r sylfaen gadarn a osododd Duw, a'r sêl sydd arni yw: “Y mae'r Arglwydd yn adnabod y rhai sy'n eiddo iddo”, a “Pob un sy'n enwi enw'r Arglwydd, cefned ar ddrygioni”.

20. Mewn tŷ mawr y mae nid yn unig lestri aur ac arian ond hefyd lestri pren a chlai, rhai i gael parch ac eraill amarch.

21. Os yw rhywun yn ei lanhau ei hun oddi wrth y pethau drygionus hyn, yna llestr parch fydd ef, cysegredig, defnyddiol i'r Meistr, ac addas i bob gweithred dda.

22. Ffo oddi wrth nwydau ieuenctid, a chanlyn gyfiawnder a ffydd a chariad a heddwch, yng nghwmni'r rhai sy'n galw ar yr Arglwydd â chalon bur.

23. Paid â gwneud dim â chwestiynau ffôl a di-ddysg; fe wyddost mai codi cwerylon a wnânt.

24. Ni ddylai gwas yr Arglwydd fod yn gwerylgar, ond yn dirion tuag at bawb, yn athro da, yn ymarhous,

25. yn addfwyn wrth ddisgyblu'r rhai sy'n tynnu'n groes. Oherwydd pwy a ŵyr na fydd Duw ryw ddydd yn rhoi iddynt edifeirwch i ddod i ganfod y gwirionedd,

26. ac na ddônt i'w pwyll a dianc o fagl y diafol, yr un a'u rhwydodd a'u caethiwo i'w ewyllys?

Darllenwch bennod gyflawn 2 Timotheus 2