1. Felly ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.
2. Cymer y geiriau a glywaist gennyf fi yng nghwmni tystion lawer, a throsglwydda hwy i ofal pobl ffyddlon a fydd yn abl i hyfforddi eraill hefyd.
3. Cymer dy gyfran o ddioddefaint, fel milwr da i Grist Iesu.
4. Nid yw milwr sydd ar ymgyrch yn ymdrafferthu â gofalon bywyd bob dydd, gan fod ei holl fryd ar ennill cymeradwyaeth ei gadfridog.
5. Ac os yw rhywun yn cystadlu mewn mabolgampau, ni all ennill y dorch heb gystadlu yn ôl y rheolau.
6. Y ffermwr sy'n llafurio sydd â'r hawl gyntaf ar y cnwd.
7. Ystyria beth yr wyf yn ei ddweud, oherwydd fe rydd yr Arglwydd iti ddealltwriaeth ym mhob peth.