Hen Destament

Testament Newydd

2 Timotheus 2:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Felly ymnertha di, fy mab, yn y gras sydd yng Nghrist Iesu.

2. Cymer y geiriau a glywaist gennyf fi yng nghwmni tystion lawer, a throsglwydda hwy i ofal pobl ffyddlon a fydd yn abl i hyfforddi eraill hefyd.

3. Cymer dy gyfran o ddioddefaint, fel milwr da i Grist Iesu.

4. Nid yw milwr sydd ar ymgyrch yn ymdrafferthu â gofalon bywyd bob dydd, gan fod ei holl fryd ar ennill cymeradwyaeth ei gadfridog.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Timotheus 2