Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 3:12-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. I'r cyfryw yr ydym yn gorchymyn, ac yn apelio yn yr Arglwydd Iesu Grist, iddynt weithio'n dawel ac ennill eu bywoliaeth eu hunain.

13. A pheidiwch chwithau, gyfeillion, â blino ar wneud daioni.

14. Os bydd rhywrai'n gwrthod ufuddhau i'n gair ni yn y llythyr hwn, cadwch eich llygad arnynt, a pheidiwch â chymdeithasu â hwy, er mwyn codi cywilydd arnynt.

15. Eto peidiwch â'u hystyried fel gelynion, ond rhybuddiwch hwy fel cyfeillion.

16. Bydded i Arglwydd tangnefedd ei hun roi tangnefedd ichwi bob amser ym mhob modd! Bydded yr Arglwydd gyda chwi oll!

17. Y mae'r cyfarchiad yn fy llaw i, Paul. Hwn yw'r arwydd ym mhob llythyr; fel hyn y byddaf yn ysgrifennu.

18. Gras ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll!

Darllenwch bennod gyflawn 2 Thesaloniaid 3