Hen Destament

Testament Newydd

2 Thesaloniaid 1:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Cyfiawn ar ran Duw, yn sicr, yw talu gorthrymder yn ôl i'r rhai sydd yn eich gorthrymu chwi,

7. a rhoi esmwythâd i chwi sy'n cael eich gorthrymu, ac i ninnau hefyd, pan ddatguddir yr Arglwydd Iesu o'r nef gyda'i angylion nerthol.

8. Fe ddaw mewn fflamau tân, gan ddial ar y rhai nad ydynt yn adnabod Duw a'r rhai nad ydynt yn ufuddhau i Efengyl ein Harglwydd Iesu.

9. Dyma'r rhai fydd yn dioddef dinistr tragwyddol yn gosb, wedi eu cau allan o bresenoldeb yr Arglwydd ac o ogoniant ei nerth ef,

10. pan ddaw, yn y Dydd hwnnw, i'w ogoneddu gan ei saint ac i fod yn destun rhyfeddod gan bawb a gredodd; oherwydd y mae'r dystiolaeth a gyhoeddwyd gennym ni i chwi wedi ei chredu.

11. I'r diben hwn hefyd yr ydym bob amser yn gweddïo drosoch chwi, ar i'n Duw ni eich cyfrif yn deilwng o'i alwad, a chyflawni trwy ei nerth bob awydd am ddaioni a phob gweithred o ffydd,

12. fel y bydd enw ein Harglwydd Iesu yn cael ei ogoneddu ynoch chwi, a chwithau ynddo yntau, yn ôl gras ein Duw a'r Arglwydd Iesu Grist.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Thesaloniaid 1