Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 2:14-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Y mae ganddynt lygaid sy'n llawn godineb, na chânt byth mo'u digon o bechod. Y maent yn denu'r ansicr i'w dinistr. Y mae ganddynt galonnau wedi eu hymarfer i drachwant—rhai dan felltith ydynt.

15. Gadawsant y ffordd union a mynd ar gyfeiliorn, gan ddilyn ffordd Balaam fab Bosor, hwnnw a roes ei fryd ar wobr drygioni,

16. ond na chafodd ddim ond cerydd am ei drosedd, pan lefarodd asyn mud â llais dynol ac atal gwallgofrwydd y proffwyd.

17. Ffynhonnau heb ddŵr ydynt, a niwloedd yn cael eu gyrru gan dymestl; y mae'r tywyllwch dudew ar gadw iddynt.

18. Oherwydd y maent yn llefaru geiriau ymffrostgar a gwag, ac yn defnyddio chwantau anllad y cnawd i ddenu i'w dinistr y rhai nad ydynt ond braidd wedi dianc o blith rhai yn byw'n gyfeiliornus.

19. Y maent yn addo rhyddid iddynt, a hwythau'n gaeth i lygredigaeth; oherwydd y mae rhywun yn gaeth i beth bynnag sydd wedi ei drechu.

20. Oherwydd os yw rhai sydd wedi dianc rhag aflendid y byd trwy ddod i adnabod ein Harglwydd a'n Gwaredwr, Iesu Grist, wedi eu dal a'u trechu eilwaith gan yr aflendid hwnnw, yna y mae eu diwedd yn waeth na'u dechrau.

21. Byddai'n well iddynt hwy fod heb ddod i adnabod ffordd cyfiawnder, yn hytrach na'i hadnabod ac yna droi oddi wrth y gorchymyn sanctaidd a draddodwyd iddynt.

22. Gwireddwyd, yn eu hachos hwy, y ddihareb:“Y mae ci yn troi'n ôl at ei gyfog ei hun”,a hefyd:“Y mae'r hwch a ymolchodd yn ymdrybaeddu yn y llaid.”

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 2