Hen Destament

Testament Newydd

2 Pedr 2:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ymddangosodd hefyd broffwydi gau ymhlith pobl Israel, ac yn yr un modd bydd athrawon gau yn eich plith chwithau, rhai a fydd yn dwyn i mewn yn llechwraidd heresïau dinistriol, yn gwadu'r Meistr a'u prynodd, ac yn dwyn arnynt eu hunain ddistryw buan.

2. A bydd llawer yn dilyn eu harferion anllad, a thrwyddynt hwy caiff ffordd y gwirionedd enw drwg.

3. Yn eu trachwant gwnânt elw ohonoch â'u storïau ffug; y mae eu barnedigaeth ar gerdded erstalwm, a'u dinistr yn rhythu arnynt.

4. Oherwydd nid arbedodd Duw yr angylion a bechodd; traddododd hwy i garchar tywyll uffern, i'w cadw hyd y Farn.

5. Nid arbedodd yr hen fyd chwaith, er iddo ddiogelu Noa, pregethwr cyfiawnder, ynghyd â saith arall, wrth ddwyn y dilyw ar fyd y rhai annuwiol.

6. Condemniodd hefyd ddinasoedd Sodom a Gomorra i ddistryw; llosgodd hwy'n lludw, a'u gosod yn esiampl o'r hyn sydd i ddigwydd i'r annuwiol.

7. Gwaredodd Lot, gŵr cyfiawn oedd yn cael ei drallodi gan fywyd anllad rhai afreolus;

8. oherwydd wrth i'r gŵr cyfiawn hwn fyw yn eu plith, yr oedd gweld a chlywed eu gweithredoedd aflywodraethus yn artaith feunyddiol i'w enaid cyfiawn.

9. Y mae'r Arglwydd yn medru gwaredu'r duwiol o'u treialon, a chadw'r anghyfiawn hyd Ddydd y Farn i'w cosbi,

10. ac yn arbennig felly y rhai sy'n byw i borthi chwantau aflan y cnawd, ac yn diystyru awdurdod.Y maent yn rhyfygus a thrahaus, ac yn sarhau'r bodau nefol yn gwbl eofn,

11. rhywbeth nad yw'r angylion, er eu rhagoriaeth mewn nerth a gallu, yn ei wneud wrth gyhoeddi barn yn eu herbyn hwy gerbron yr Arglwydd.

12. Ond y mae'r bobl hyn yn siarad yn sarhaus am bethau nad ydynt yn eu deall; y maent fel anifeiliaid direswm sydd, yn nhrefn natur, wedi eu geni i'w dal a'u difetha; ac fel y difethir anifeiliaid, fe'u difethir hwythau.

13. Fe gânt ddrwg yn dâl am eu drygioni. Eu syniad am bleser yw gloddesta liw dydd. Yn eich cwmni, mae eu chwant a'u gloddesta yn warth a gwaradwydd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Pedr 2