Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 8:21-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

21. Oherwydd y mae ein hamcanion yn anrhydeddus, nid yn unig yng ngolwg yr Arglwydd, ond hefyd yng ngolwg pobl.

22. Yr ydym hefyd yn anfon gyda hwy ein brawd, yr un y cawsom brawf o'i ymroddiad mewn llawer modd a llawer gwaith. Y mae yn awr yn fwy ymroddgar byth oherwydd yr ymddiriedaeth lwyr sydd ganddo ynoch.

23. Os gofynnir am Titus, fy nghydymaith yw, a'm cydweithiwr yn eich gwasanaeth; neu am y brodyr, cenhadau'r eglwysi ydynt, a gogoniant Crist.

24. Am hynny, dangoswch iddynt brawf o'ch cariad, ac o'n hymffrost ni amdanoch, yng ngŵydd yr eglwysi.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 8