Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 8:2-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Er iddynt gael eu profi'n llym gan orthrymder, gorlifodd cyflawnder eu llawenydd a dyfnder eu tlodi yn gyfoeth o haelioni ynddynt.

3. Yr wyf yn dyst iddynt roi yn ôl eu gallu, a'r tu hwnt i'w gallu, a hynny o'u gwirfodd eu hunain,

4. gan ddeisyf arnom yn daer iawn am gael y fraint o gyfrannu tuag at y cymorth i'r saint—

5. ac aethant ymhellach na dim y gobeithiais amdano, gan eu rhoi eu hunain yn gyntaf i'r Arglwydd, ac i ninnau yn ôl ewyllys Duw.

6. Felly yr ydym wedi gofyn i Titus orffen y gwaith grasusol hwn yn eich plith yn union fel y dechreuodd arno.

7. Ym mhob peth yr ydych yn helaeth, yn eich ffydd a'ch ymadrodd a'ch gwybodaeth, yn eich ymroddiad llwyr ac yn y cariad a enynnwyd ynoch gan ein cariad ni. Felly hefyd byddwch yn helaeth yn y gorchwyl grasusol hwn.

8. Nid fel gorchymyn yr wyf yn dweud hyn, ond i brofi didwylledd eich cariad chwi trwy sôn am ymroddiad pobl eraill.

9. Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau'n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef.

10. Yn hyn o beth, rhoi fy marn yr wyf, a hynny sydd orau i chwi, y rhai a fu'n gyntaf, nid yn unig i weithredu ond i ewyllysio gweithredu, er y llynedd.

11. Yn awr gorffennwch y gweithredu yn ôl eich gallu, fel y bydd y gorffen yn cyfateb i eiddgarwch eich bwriad.

12. Oherwydd os ydych yn eiddgar i roi, y mae hynny'n dderbyniol gan Dduw, ar sail yr hyn sydd gan rywun, nid yr hyn nad yw ganddo.

13. Nid fy mwriad yw cael esmwythyd i eraill ar draul gorthrymder i chwi,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 8