Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 6:10-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. dan dristwch, ond bob amser yn llawenhau; mewn tlodi, ond yn gwneud llawer yn gyfoethog; heb ddim gennym, ac eto'n berchen pob peth.

11. Yr ydym wedi llefaru'n gwbl rydd wrthych, Gorinthiaid; y mae'n calon yn llydan agored tuag atoch.

12. Nid nyni sy'n cyfyngu arnoch, ond eich teimladau eich hunain.

13. I dalu'n ôl—yr wyf yn siarad wrthych fel wrth blant—agorwch chwithau eich calonnau yn llydan.

14. Peidiwch ag ymgysylltu'n amhriodol ag anghredinwyr, oherwydd pa gyfathrach sydd rhwng cyfiawnder ac anghyfraith? A pha gymdeithas sydd rhwng goleuni a thywyllwch?

15. Pa gytgord sydd rhwng Crist a Belial? Neu pa gyfran sydd i gredadun gydag anghredadun?

16. Pa gytundeb sydd rhwng teml Duw ac eilunod? Oherwydd nyni yw teml y Duw byw. Fel y dywedodd Duw:“Trigaf ynddynt hwy, a rhodiaf yn eu plith,a byddaf yn Dduw iddynt hwy,a hwythau'n bobl i minnau.

17. Am hynny, dewch allan o'u plith hwy,ymwahanwch oddi wrthynt, medd yr Arglwydd,a pheidiwch â chyffwrdd â dim byd aflan.Ac fe'ch derbyniaf chwi,

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 6