12. Felly y mae marwolaeth ar waith ynom ni, a bywyd ynoch chwi.
13. Gan fod gennym ni yr un ysbryd crediniol yr ysgrifennir amdano yng ngeiriau'r Ysgrythur, “Credais, ac am hynny y lleferais”, yr ydym ninnau hefyd yn credu, ac am hynny yn llefaru,
14. gan wybod y bydd i'r hwn a gyfododd yr Arglwydd Iesu ein cyfodi ninnau hefyd gyda Iesu, a'n gosod ger ei fron gyda chwi.
15. Oherwydd er eich mwyn chwi y mae'r cyfan, fel y bo i ras Duw fynd ar gynnydd ymhlith mwy a mwy o bobl, ac amlhau'r diolch fwyfwy er gogoniant Duw.
16. Am hynny, nid ydym yn digalonni. Er ein bod yn allanol yn dadfeilio, yn fewnol fe'n hadnewyddir ddydd ar ôl dydd.