Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 3:7-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Gweini marwolaeth oedd swydd y Gyfraith a'i geiriau cerfiedig ar feini, ond gan gymaint gogoniant ei chyflwyno, ni allai'r Israeliaid syllu ar wyneb Moses o achos y gogoniant oedd arno, er mai rhywbeth i ddiflannu ydoedd.

8. Os felly, pa faint mwy fydd gogoniant gweinidogaeth yr Ysbryd?

9. Oherwydd os oedd gogoniant yn perthyn i weinidogaeth sy'n condemnio, rhagorach o lawer mewn gogoniant yw gweinidogaeth sy'n cyfiawnhau.

10. Yn wir, gwelir yma ogoniant a fu, wedi colli ei ogoniant yn llewyrch gogoniant rhagorach.

11. Oherwydd os mewn gogoniant y cyflwynwyd yr hyn oedd i ddiflannu, gymaint mwy yw gogoniant yr hyn sydd i aros!

12. Gan fod gennym ni felly'r fath obaith, yr ydym yn hy iawn,

13. ac nid yn debyg i Moses yn gosod gorchudd ar ei wyneb rhag ofn i'r Israeliaid syllu ar ddiwedd y gogoniant oedd i ddiflannu.

14. Ond pylwyd eu meddyliau. Hyd y dydd hwn, pan ddarllenant yr hen gyfamod, y mae'r un gorchudd yn aros heb ei godi, gan mai yng Nghrist yn unig y symudir ef.

15. Hyd y dydd hwn, pryd bynnag y darllenir Cyfraith Moses, y mae'r gorchudd yn gorwedd ar eu meddwl.

16. Ond pryd bynnag y mae rhywun yn troi at yr Arglwydd, fe dynnir ymaith y gorchudd.

17. Yr Ysbryd yw'r Arglwydd hwn. A lle y mae Ysbryd yr Arglwydd, y mae rhyddid.

18. Ac yr ydym ni i gyd, heb orchudd ar ein hwyneb, yn edrych, fel mewn drych, ar ogoniant yr Arglwydd ac yn cael ein trawsffurfio o ogoniant i ogoniant, yn wir lun ohono ef. A gwaith yr Arglwydd, yr Ysbryd, yw hyn.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 3