Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 11:18-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

18. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl safonau'r cnawd, fe ymffrostiaf finnau hefyd.

19. Oherwydd yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, a chwithau mor ddoeth!

20. Os bydd rhywun yn eich caethiwo, neu yn eich ysbeilio, neu yn cymryd mantais arnoch, neu yn ymddyrchafu, neu yn eich taro ar eich wyneb, yr ydych yn goddef y cwbl.

21. Rwy'n cydnabod, er cywilydd, i ni fod yn wan yn hyn o beth. Ond os oes rhywbeth y beiddia rhywun ymffrostio amdano, fe feiddiaf finnau hefyd—mewn ffolineb yr wyf yn siarad.

22. Ai Hebreaid ydynt? Minnau hefyd. Ai Israeliaid ydynt? Minnau hefyd. Ai disgynyddion Abraham ydynt? Minnau hefyd.

23. Ai gweision Crist ydynt? Yr wyf yn siarad yn wallgof, myfi yn fwy; yn fwy o lawer mewn llafur, yn amlach o lawer yng ngharchar, dan y fflangell yn fwy mynych, mewn perygl einioes dro ar ôl tro.

24. Pumwaith y cefais ar law'r Iddewon y deugain llach ond un.

25. Tair gwaith fe'm curwyd â ffyn, unwaith fe'm llabyddiwyd, tair gwaith bûm mewn llongddrylliad, ac am ddiwrnod a noson bûm yn y môr.

26. Bûm ar deithiau yn fynych, mewn peryglon gan afonydd, peryglon ar law lladron, peryglon ar law fy nghenedl fy hun ac ar law'r Cenhedloedd, peryglon yn y dref ac yn yr anialwch ac ar y môr, a pheryglon ymhlith gau gredinwyr.

27. Bûm mewn llafur a lludded, yn fynych heb gwsg, mewn newyn a syched, yn fynych heb luniaeth, yn oer ac yn noeth.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 11