Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 11:10-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

10. Cyn wired â bod gwirionedd Crist ynof, ni roddir taw ar fy ymffrost hwn yn ardaloedd Achaia.

11. Pam? Am nad wyf yn eich caru? Fe ŵyr Duw fy mod.

12. Daliaf i wneud yr hyn yr wyf yn ei wneud yn awr, i ddwyn eu cyfle oddi ar y rhai sy'n ceisio cyfle, yn y swydd y maent yn ymffrostio ynddi, i gael eu cyfrif yn gyfartal â ni.

13. Ffug apostolion yw'r fath rai, gweithwyr twyllodrus, yn ymrithio fel apostolion i Grist.

14. Ac nid rhyfedd, oherwydd y mae Satan yntau yn ymrithio fel angel goleuni.

15. Nid yw'n beth mawr, felly, os yw ei weision hefyd yn ymrithio fel gweision cyfiawnder. Bydd eu diwedd yn unol â'u gweithredoedd.

16. Rwy'n dweud eto: na thybied neb fy mod yn ffôl. Ond os gwnewch, rhowch i mi ryddid un ffôl i ymffrostio tipyn bach.

17. Yr wyf yn siarad yn awr, yn yr hyder ymffrostgar hwn, nid fel y mynnai'r Arglwydd imi siarad, ond mewn ffolineb.

18. Gan fod llawer yn ymffrostio yn ôl safonau'r cnawd, fe ymffrostiaf finnau hefyd.

19. Oherwydd yr ydych yn goddef ffyliaid yn llawen, a chwithau mor ddoeth!

20. Os bydd rhywun yn eich caethiwo, neu yn eich ysbeilio, neu yn cymryd mantais arnoch, neu yn ymddyrchafu, neu yn eich taro ar eich wyneb, yr ydych yn goddef y cwbl.

21. Rwy'n cydnabod, er cywilydd, i ni fod yn wan yn hyn o beth. Ond os oes rhywbeth y beiddia rhywun ymffrostio amdano, fe feiddiaf finnau hefyd—mewn ffolineb yr wyf yn siarad.

22. Ai Hebreaid ydynt? Minnau hefyd. Ai Israeliaid ydynt? Minnau hefyd. Ai disgynyddion Abraham ydynt? Minnau hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 11