Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 11:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O na baech yn fy ngoddef yn fy nhipyn ffolineb! Da chwi, goddefwch fi!

2. Oherwydd yr wyf yn eiddigeddus drosoch ag eiddigedd Duw ei hun, gan i mi eich dyweddïo i un gŵr, eich cyflwyno yn wyryf bur i Grist.

3. Ond fel y twyllodd y sarff Efa trwy ei chyfrwystra, y mae arnaf ofn y llygrir eich meddyliau chwi yn yr un modd, a'ch troi oddi wrth ddidwylledd a phurdeb eich ymlyniad wrth Grist.

4. Oherwydd os daw rhywun a phregethu Iesu arall, na phregethasom ni, neu os ydych yn derbyn ysbryd gwahanol i'r Ysbryd a dderbyniasoch, neu efengyl wahanol i'r Efengyl a dderbyniasoch, yr ydych yn goddef y cwbl yn llawen.

5. Nid wyf yn f'ystyried fy hun yn ôl mewn dim i'r archapostolion hyn.

6. Hyd yn oed os wyf yn anfedrus fel siaradwr, nid wyf felly mewn gwybodaeth; ym mhob ffordd ac ar bob cyfle yr ydym wedi gwneud hyn yn eglur i chwi.

7. A wneuthum drosedd wrth fy narostwng fy hun er mwyn ichwi gael eich dyrchafu, trwy bregethu ichwi Efengyl Duw yn ddi-dâl?

8. Ysbeiliais eglwysi eraill trwy dderbyn cyflog ganddynt er mwyn eich gwasanaethu chwi.

9. A phan oeddwn gyda chwi ac mewn angen, ni bûm yn faich ar neb, oherwydd diwallodd y cyfeillion a ddaeth o Facedonia fy angen. Ym mhob peth fe'm cedwais, ac fe'm cadwaf, fy hun rhag bod yn dreth arnoch.

10. Cyn wired â bod gwirionedd Crist ynof, ni roddir taw ar fy ymffrost hwn yn ardaloedd Achaia.

11. Pam? Am nad wyf yn eich caru? Fe ŵyr Duw fy mod.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 11