Hen Destament

Testament Newydd

2 Corinthiaid 1:13-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Oherwydd nid ydym yn ysgrifennu dim atoch na allwch ei ddarllen a'i ddeall. Yr wyf yn gobeithio y dewch i ddeall yn gyflawn,

14. fel yr ydych eisoes wedi deall yn rhannol amdanom, y byddwn ni yn destun ymffrost i chwi yn union fel y byddwch chwi i ninnau yn Nydd ein Harglwydd Iesu.

15. Am fy mod mor sicr o hyn, yr oeddwn yn bwriadu dod atoch chwi'n gyntaf, er mwyn i chwi gael bendith eilwaith.

16. Fy amcan oedd ymweld â chwi ar fy ffordd i Facedonia, a dod yn ôl atoch o Facedonia, ac i chwithau fy hebrwng i Jwdea.

17. Os hyn oedd fy mwriad, a fûm yn wamal? Neu ai fel dyn bydol yr wyf yn gwneud fy nhrefniadau, nes medru dweud “Ie, ie” a “Nage, nage” ar yr un anadl?

18. Ond fel y mae Duw'n ffyddlon, nid “Ie” a “Nage” hefyd yw ein gair ni i chwi.

19. Nid oedd Mab Duw, Iesu Grist, a bregethwyd yn eich plith gennym ni, gan Silfanus a Timotheus a minnau, nid oedd ef yn “Ie” ac yn “Nage”. “Ie” yw'r gair a geir ynddo ef.

20. Ynddo ef y mae'r “Ie” i holl addewidion Duw. Dyna pam mai trwyddo ef yr ydym yn dweud yr “Amen” er gogoniant Duw.

21. Ond Duw yw'r hwn sydd yn ein cadarnhau ni gyda chwi yng Nghrist,

22. ac sydd wedi ein heneinio ni, a'n selio ni, a rhoi'r Ysbryd yn ernes yn ein calonnau.

23. Yr wyf fi'n galw Duw yn dyst ar fy einioes, mai i'ch arbed chwi y penderfynais beidio â dod i Gorinth.

Darllenwch bennod gyflawn 2 Corinthiaid 1