Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 6:19-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

19. ac felly i gael trysor iddynt eu hunain fydd yn sylfaen sicr ar gyfer y dyfodol, i feddiannu'r bywyd sydd yn fywyd yn wir.

20. Timotheus, cadw'n ddiogel yr hyn a ymddiriedwyd i'th ofal, a thro dy gefn ar y gwag siarad bydol, a'r gwrthddywediadau a gamenwir yn wybodaeth.

21. Y mae rhai sy'n proffesu'r wybodaeth hon wedi gwyro ymhell oddi wrth y ffydd.Gras fyddo gyda chwi!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 6