Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 5:9-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Ni ddylid rhoi gwraig ar restr y gweddwon os nad yw dros drigain oed, ac a fu'n wraig i un gŵr.

10. A rhaid cael prawf iddi ymroi i weithredoedd da: iddi fagu plant, iddi roi llety i ddieithriaid, iddi olchi traed y saint, iddi gynorthwyo pobl mewn cyfyngder, yn wir iddi ymdaflu i bob math o weithredoedd da.

11. A phaid â chynnwys y rhai iau ar restr y gweddwon, oherwydd cyn gynted ag y bydd eu nwydau yn eu dieithrio oddi wrth Grist, daw arnynt chwant priodi,

12. a chânt eu condemnio felly am dorri'r adduned a wnaethant ar y dechrau.

13. At hynny, byddant yn dysgu bod yn ddiog wrth fynd o gwmpas y tai, ac nid yn unig yn ddiog ond hefyd yn siaradus a busneslyd, yn dweud pethau na ddylid.

14. Fy nymuniad, felly, yw bod gweddwon iau yn priodi, yn magu plant ac yn cadw tŷ, a pheidio â rhoi cyfle i unrhyw elyn i'n difenwi.

15. Oherwydd y mae rhai gweddwon eisoes wedi mynd ar gyfeiliorn a chanlyn Satan.

16. Dylai unrhyw wraig sy'n gredadun, a chanddi weddwon yn y teulu, ofalu amdanynt. Nid yw'r gynulleidfa i ddwyn y baich mewn achos felly, er mwyn iddynt allu gofalu am y rhai sy'n weddwon mewn gwirionedd.

17. Y mae'r henuriaid sy'n arweinwyr da yn haeddu cael dwbl y gydnabyddiaeth, yn arbennig y rhai sydd yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi.

18. Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu”, a hefyd: “Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 5