Hen Destament

Testament Newydd

1 Timotheus 5:15-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Oherwydd y mae rhai gweddwon eisoes wedi mynd ar gyfeiliorn a chanlyn Satan.

16. Dylai unrhyw wraig sy'n gredadun, a chanddi weddwon yn y teulu, ofalu amdanynt. Nid yw'r gynulleidfa i ddwyn y baich mewn achos felly, er mwyn iddynt allu gofalu am y rhai sy'n weddwon mewn gwirionedd.

17. Y mae'r henuriaid sy'n arweinwyr da yn haeddu cael dwbl y gydnabyddiaeth, yn arbennig y rhai sydd yn llafurio ym myd pregethu a hyfforddi.

18. Oherwydd y mae'r Ysgrythur yn dweud: “Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu”, a hefyd: “Y mae'r gweithiwr yn haeddu ei gyflog.”

19. Paid â derbyn cyhuddiad yn erbyn henuriad os na fydd hyn ar air dau neu dri o dystion.

20. Y rhai ohonynt sy'n dal i bechu, cerydda hwy yng ngŵydd pawb, i godi ofn ar y gweddill yr un pryd.

21. Yr wyf yn dy rybuddio, yng ngŵydd Duw a Christ Iesu a'r angylion etholedig, i gadw'r rheolau hyn yn ddiragfarn, a'u gweithredu ar bob adeg yn ddiduedd.

22. Paid â bod ar frys i arddodi dwylo ar neb, a thrwy hynny gyfranogi ym mhechodau pobl eraill; cadw dy hun yn bur.

23. Bellach, paid ag yfed dŵr yn unig, ond cymer ychydig o win at dy stumog a'th aml anhwylderau.

24. Y mae pechodau rhai pobl yn eglur ddigon, ac yn eu rhagflaenu i farn, ond y mae eraill sydd â'u pechodau yn eu dilyn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Timotheus 5