Hen Destament

Testament Newydd

1 Thesaloniaid 2:17-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Pan oeddem ni, gyfeillion, wedi ein gwneud yn amddifad, o'ch colli chwi dros ychydig amser, o ran golwg ond nid o ran y galon, aethom yn fwy eiddgar, ac yn angerddol ein dymuniad am eich gweld.

18. Oherwydd buom yn awyddus i ddod atoch—myfi, Paul, dro ar ôl tro—ond rhwystrodd Satan ni.

19. Canys pwy yw ein gobaith a'n llawenydd, a'r goron yr ymffrostiwn ynddi gerbron ein Harglwydd Iesu ar ei ddyfodiad, pwy ond chwi eich hunain?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Thesaloniaid 2