Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 4:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Am hynny, gan i Grist ddioddef yn y cnawd, cymerwch chwithau yr un meddwl yn arfogaeth i chwi—oherwydd y mae'r sawl a ddioddefodd yn y cnawd wedi darfod â phechod—

2. fel na fydd ichwi mwyach dreulio gweddill eich amser yn y cnawd yn ôl chwantau dynol, ond yn ôl ewyllys Duw.

3. Oherwydd y mae'r amser a aeth heibio yn hen ddigon i fod wedi gwneud y pethau y mae bryd y Cenhedloedd arnynt, gan rodio mewn trythyllwch, chwantau, meddwdod, cyfeddach, diota ac eilunaddoliaeth ffiaidd.

4. Yn hyn o beth, y mae pobl yn ei gweld yn rhyfedd nad ydych chwi'n dal i ruthro gyda hwy i'r un llifeiriant o afradlonedd; ac y maent yn eich cablu.

5. Bydd raid iddynt roi cyfrif i'r hwn sydd yn barod i farnu'r byw a'r meirw.

6. I'r diben hwn y pregethwyd yr Efengyl i'r meirw hefyd; er mwyn iddynt—er cael eu barnu yn y cnawd fel y bernir pawb—fyw yn yr ysbryd fel y mae Duw yn byw.

7. Y mae diwedd pob peth ar ein gwarthaf. Am hynny, ymbwyllwch ac ymddisgyblwch i weddïo.

8. O flaen pob peth, cadwch eich cariad at eich gilydd yn llawn angerdd, oherwydd y mae cariad yn dileu lliaws o bechodau.

9. Byddwch letygar i'ch gilydd heb rwgnach.

10. Yn ôl fel y derbyniodd pob un ohonoch ddawn, defnyddiwch eich dawn yng ngwasanaeth eich gilydd, fel gweinyddwyr da ar amryfal ras Duw.

11. Pwy bynnag sy'n llefaru, llefared fel un sydd wedi derbyn oraclau Duw; os yw'n gwasanaethu, gwasanaethed fel un sydd wedi derbyn o'r nerth y mae Duw yn ei gyfrannu. Yr amcan ym mhob dim yw gogoneddu Duw trwy Iesu Grist. Iddo ef y perthyn y gogoniant a'r gallu byth bythoedd. Amen.

12. Gyfeillion annwyl, peidiwch â rhyfeddu at y prawf tanllyd sydd ar waith yn eich plith, fel petai rhywbeth rhyfedd yn digwydd ichwi.

13. Yn hytrach, yn ôl maint eich cyfran yn nioddefiadau Crist llawenhewch, er mwyn ichwi allu llawenhau hefyd, a gorfoleddu, pan ddatguddir ei ogoniant ef.

14. Os gwaradwyddir chwi oherwydd enw Crist, gwyn eich byd, o achos y mae Ysbryd y gogoniant, sef Ysbryd Duw, yn gorffwys arnoch.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 4