Hen Destament

Testament Newydd

1 Pedr 2:15-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Oherwydd hyn yw ewyllys Duw, i chwi trwy wneud daioni roi taw ar anwybodaeth ffyliaid.

16. Rhaid ichwi fyw fel pobl rydd, eto peidio ag arfer eich rhyddid i gelu drygioni, ond bod fel caethweision Duw.

17. Rhowch barch i bawb, carwch deulu'r ffydd, ofnwch Dduw, parchwch yr ymerawdwr.

18. Chwi weision, byddwch ddarostyngedig i'ch meistri gyda phob parchedig ofn, nid yn unig i'r rhai da ac ystyriol ond hefyd i'r rhai gormesol.

19. Oblegid hyn sydd gymeradwy, bod rhywun, am fod ei feddylfryd ar Dduw, yn dygymod â'i flinderau er iddo ddioddef ar gam.

20. Oherwydd pa glod sydd mewn dygymod â chael eich cernodio am ymddwyn yn ddrwg? Ond os am wneud daioni y byddwch yn dioddef, ac yn dygymod â hynny, dyna'r peth sy'n gymeradwy gan Dduw.

21. Canys i hyn y'ch galwyd, oherwydd dioddefodd Crist yntau er eich mwyn chwi, gan adael ichwi esiampl, ichwi ganlyn yn ôl ei draed ef.

22. Yng ngeiriau'r Ysgrythur:“Ni wnaeth ef bechod,ac ni chafwyd twyll yn ei enau.”

23. Pan fyddai'n cael ei ddifenwi, ni fyddai'n difenwi'n ôl; pan fyddai'n dioddef, ni fyddai'n bygwth, ond yn ei gyflwyno'i hun i'r Un sy'n barnu'n gyfiawn.

24. Ef ei hun a ddygodd ein pechodau yn ei gorff ar y croesbren, er mwyn i ni ddarfod â'n pechodau a byw i gyfiawnder. Trwy ei archoll ef y cawsoch iachâd.

25. Oherwydd yr oeddech fel defaid ar ddisberod, ond yn awr troesoch at Fugail a Gwarchodwr eich eneidiau.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Pedr 2