1. Ymaith gan hynny â phob drygioni a phob twyll a rhagrith a chenfigen, a phob siarad bychanus!
2. Fel babanod newydd eu geni, blysiwch am laeth ysbrydol pur, er mwyn ichwi drwyddo gynyddu i iachawdwriaeth,
3. os ydych wedi profi tiriondeb yr Arglwydd.
4. Wrth ddod ato ef, y maen bywiol, gwrthodedig gan bobl ond etholedig a chlodfawr gan Dduw,
5. yr ydych chwithau hefyd, fel meini bywiol, yn cael eich adeiladu yn dŷ ysbrydol, i fod yn offeiriadaeth sanctaidd, er mwyn offrymu aberthau ysbrydol, cymeradwy gan Dduw trwy Iesu Grist.
6. Oherwydd y mae'n sefyll yn yr Ysgrythur:“Wele fi'n gosod maen yn Seion,conglfaen etholedig a chlodfawr,a'r hwn sy'n credu ynddo, ni chywilyddir byth mohono.”