3. Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus,
4. am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu'r byd. Hon yw'r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni.
5. Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw?
6. Dyma'r un a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid trwy ddŵr yn unig, ond trwy'r dŵr a thrwy'r gwaed. Yr Ysbryd yw'r tyst, am mai'r Ysbryd yw'r gwirionedd.
7. Oherwydd y mae tri sy'n tystiolaethu,
8. yr Ysbryd, y dŵr, a'r gwaed, ac y mae'r tri yn gytûn.
9. Os ydym yn derbyn tystiolaeth pobl feidrol, y mae tystiolaeth Duw yn fwy. A hon yw tystiolaeth Duw: ei fod wedi tystio am ei Fab.