Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 5:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Pob un sy'n credu mai Iesu yw'r Crist, y mae wedi ei eni o Dduw; ac y mae pawb sy'n caru tad yn caru ei blentyn hefyd.

2. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn caru plant Duw: pan fyddwn yn caru Duw ac yn cadw ei orchmynion.

3. Oherwydd dyma yw caru Duw: bod inni gadw ei orchmynion. Ac nid yw ei orchmynion ef yn feichus,

4. am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu'r byd. Hon yw'r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni.

5. Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw?

6. Dyma'r un a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid trwy ddŵr yn unig, ond trwy'r dŵr a thrwy'r gwaed. Yr Ysbryd yw'r tyst, am mai'r Ysbryd yw'r gwirionedd.

7. Oherwydd y mae tri sy'n tystiolaethu,

8. yr Ysbryd, y dŵr, a'r gwaed, ac y mae'r tri yn gytûn.

9. Os ydym yn derbyn tystiolaeth pobl feidrol, y mae tystiolaeth Duw yn fwy. A hon yw tystiolaeth Duw: ei fod wedi tystio am ei Fab.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 5