Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 4:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

7. Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy'n caru wedi ei eni o Dduw, ac yn adnabod Duw.

8. Y sawl nad yw'n caru, nid yw'n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw.

9. Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom: bod Duw wedi anfon ei unig Fab i'r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef.

10. Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni'n caru Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn aberth cymod dros ein pechodau.

11. Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd.

12. Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.

13. Dyma sut yr ydym yn gwybod ein bod yn aros ynddo ef, ac ef ynom ninnau: am iddo ef roi inni o'i Ysbryd.

14. Yr ydym ni wedi gweld, ac yr ydym yn tystiolaethu bod y Tad wedi anfon ei Fab yn Waredwr y byd.

15. Pwy bynnag sy'n cyffesu mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo, ac yntau yn Nuw.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 4