Hen Destament

Testament Newydd

1 Ioan 4:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

15. Pwy bynnag sy'n cyffesu mai Iesu yw Mab Duw, y mae Duw yn aros ynddo, ac yntau yn Nuw.

16. Felly yr ydym ni wedi dod i adnabod a chredu'r cariad sydd gan Dduw tuag atom.Cariad yw Duw, ac y mae'r sawl sy'n aros mewn cariad yn aros yn Nuw, a Duw yn aros ynddo yntau.

17. Yn hyn y mae cariad wedi cael ei berffeithio ynom: bod gennym hyder yn Nydd y Farn, oherwydd fel y mae ef, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn.

18. Nid oes ofn mewn cariad, ond y mae cariad perffaith yn bwrw allan ofn; y mae a wnelo ofn â chosb, ac nid yw'r sawl sy'n ofni wedi ei berffeithio mewn cariad.

19. Yr ydym ni'n caru, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni.

20. Os dywed rhywun, “Rwy'n caru Duw”, ac yntau'n casáu ei gydaelod, y mae'n gelwyddog; oherwydd ni all neb nad yw'n caru cydaelod y mae wedi ei weld, garu Duw nad yw wedi ei weld.

21. A dyma'r gorchymyn sydd gennym oddi wrtho ef: bod i'r sawl sy'n caru Duw garu ei gydaelod hefyd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Ioan 4