Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:23-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Dros yr Efengyl yr wyf yn gwneud pob peth, er mwyn i mi gael cydgyfranogi ynddi.

24. Oni wyddoch am y rhai sy'n rhedeg mewn ras, eu bod i gyd yn rhedeg, ond mai un sy'n derbyn y wobr? Felly, rhedwch i ennill.

25. Y mae pob mabolgampwr yn arfer hunanreolaeth ym mhopeth; y maent hwy, yn wir, yn gwneud hynny er mwyn ennill torch lygradwy, ond y mae i ni un sy'n anllygradwy.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9