Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Os nad wyf yn apostol i eraill, o leiaf yr wyf felly i chwi; oherwydd chwi yw sêl fy apostolaeth, yn yr Arglwydd.

3. Fy amddiffyniad i'r rhai sy'n eistedd mewn barn arnaf yw hyn:

4. onid oes gennym hawl i fwyta ac yfed?

5. Onid oes gennym hawl i fynd â gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni, fel y gwna'r apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Ceffas?

6. Neu ai myfi a Barnabas yn unig sydd heb yr hawl i beidio â gweithio i ennill ein bywoliaeth?

7. Pwy fyddai byth yn rhoi gwasanaeth milwr ar ei draul ei hun? Pwy sy'n plannu gwinllan heb fwyta o'r ffrwyth? Pwy sy'n bugeilio praidd heb yfed o'r llaeth?

8. Ai ar awdurdod dynol yr wyf yn dweud hyn? Onid yw'r Gyfraith hefyd yn ei ddweud?

9. Oherwydd yng Nghyfraith Moses y mae'n ysgrifenedig: “Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu.” Ai am ychen y mae gofal Duw?

10. Onid yw'n eglur mai er ein mwyn ni y mae'n ei ddweud? Ie, er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd ef, oherwydd dylai'r arddwr aredig, a'r dyrnwr ddyrnu, mewn gobaith am gael cyfran o'r cnwd.

11. Os ydym ni wedi hau had ysbrydol er eich lles chwi, a yw'n ormod inni fedi cnwd materol ar eich traul chwi?

12. Os oes gan eraill ran yn yr hawl hon arnoch, oni ddylem ni fod â mwy?Ond nid ydym wedi arfer yr hawl hon; yn hytrach, yr ydym yn goddef pob peth, rhag inni osod unrhyw rwystr ar ffordd Efengyl Crist.

13. Oni wyddoch fod y sawl sy'n cyflawni gwasanaethau'r deml yn cael eu bwyd o'r deml, a bod y rhai sy'n gweini wrth yr allor yn cael eu cyfran o aberthau'r allor?

14. Yn yr un modd hefyd, rhoddodd yr Arglwydd orchymyn i'r rhai sy'n cyhoeddi'r Efengyl, eu bod i fyw ar draul yr Efengyl.

15. Ond nid wyf fi wedi manteisio ar ddim o'r hawliau hyn. Ac nid er mwyn cael dim o'r fath i mi fy hun yr wyf yn ysgrifennu hyn. Byddai'n well gennyf farw na hynny. Ni chaiff neb droi fy ymffrost yn wagedd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9