Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:17-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Os o'm gwirfodd yr wyf yn gwneud hyn, y mae imi dâl; ond os o'm hanfodd, yr wyf yn gwneud gorchwyl sydd wedi ei ymddiried imi.

18. Beth, felly, yw fy nhâl? Hyn ydyw: fy mod, wrth bregethu'r Efengyl, yn ei chyflwyno am ddim, heb fanteisio o gwbl ar fy hawl yn yr Efengyl.

19. Oherwydd, er fy mod yn rhydd oddi wrth bawb, yr wyf wedi fy ngwneud fy hun yn gaethwas i bawb, er mwyn ennill rhagor ohonynt.

20. I'r Iddewon, euthum fel Iddew, er mwyn ennill Iddewon. I'r rhai sydd dan y Gyfraith, fel un ohonynt hwy—er nad wyf fy hunan dan y Gyfraith—er mwyn ennill y rhai sydd dan y Gyfraith.

21. I'r rhai sydd heb y Gyfraith, fel un ohonynt hwythau—er nad wyf heb Gyfraith Duw, gan fy mod dan Gyfraith Crist—er mwyn ennill y rhai sydd heb y Gyfraith.

22. I'r gweiniaid, euthum yn wan, er mwyn ennill y gweiniaid. Yr wyf wedi mynd yn bob peth i bawb, er mwyn imi, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, achub rhai.

23. Dros yr Efengyl yr wyf yn gwneud pob peth, er mwyn i mi gael cydgyfranogi ynddi.

24. Oni wyddoch am y rhai sy'n rhedeg mewn ras, eu bod i gyd yn rhedeg, ond mai un sy'n derbyn y wobr? Felly, rhedwch i ennill.

25. Y mae pob mabolgampwr yn arfer hunanreolaeth ym mhopeth; y maent hwy, yn wir, yn gwneud hynny er mwyn ennill torch lygradwy, ond y mae i ni un sy'n anllygradwy.

26. Yr wyf fi, gan hynny, yn rhedeg fel un sydd â'r nod yn sicr o'i flaen. Yr wyf yn cwffio, nid fel un sy'n curo'r awyr â'i ddyrnau.

27. Yr wyf yn cernodio fy nghorff, ac yn ei gaethiwo, rhag i mi, sydd wedi pregethu i eraill, fy nghael fy hun yn wrthodedig.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9