Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Onid wyf fi'n rhydd? Onid wyf yn apostol? Onid wyf wedi gweld Iesu, ein Harglwydd? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?

2. Os nad wyf yn apostol i eraill, o leiaf yr wyf felly i chwi; oherwydd chwi yw sêl fy apostolaeth, yn yr Arglwydd.

3. Fy amddiffyniad i'r rhai sy'n eistedd mewn barn arnaf yw hyn:

4. onid oes gennym hawl i fwyta ac yfed?

5. Onid oes gennym hawl i fynd â gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni, fel y gwna'r apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Ceffas?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9