Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 9:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Onid wyf fi'n rhydd? Onid wyf yn apostol? Onid wyf wedi gweld Iesu, ein Harglwydd? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd?

2. Os nad wyf yn apostol i eraill, o leiaf yr wyf felly i chwi; oherwydd chwi yw sêl fy apostolaeth, yn yr Arglwydd.

3. Fy amddiffyniad i'r rhai sy'n eistedd mewn barn arnaf yw hyn:

4. onid oes gennym hawl i fwyta ac yfed?

5. Onid oes gennym hawl i fynd â gwraig sy'n Gristion o gwmpas gyda ni, fel y gwna'r apostolion eraill, a brodyr yr Arglwydd, a Ceffas?

6. Neu ai myfi a Barnabas yn unig sydd heb yr hawl i beidio â gweithio i ennill ein bywoliaeth?

7. Pwy fyddai byth yn rhoi gwasanaeth milwr ar ei draul ei hun? Pwy sy'n plannu gwinllan heb fwyta o'r ffrwyth? Pwy sy'n bugeilio praidd heb yfed o'r llaeth?

8. Ai ar awdurdod dynol yr wyf yn dweud hyn? Onid yw'r Gyfraith hefyd yn ei ddweud?

9. Oherwydd yng Nghyfraith Moses y mae'n ysgrifenedig: “Nid wyt i roi genfa am safn ych tra bydd yn dyrnu.” Ai am ychen y mae gofal Duw?

10. Onid yw'n eglur mai er ein mwyn ni y mae'n ei ddweud? Ie, er ein mwyn ni yr ysgrifennwyd ef, oherwydd dylai'r arddwr aredig, a'r dyrnwr ddyrnu, mewn gobaith am gael cyfran o'r cnwd.

11. Os ydym ni wedi hau had ysbrydol er eich lles chwi, a yw'n ormod inni fedi cnwd materol ar eich traul chwi?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 9