Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 7:1-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Yn awr, ynglŷn â'r pethau yn eich llythyr. Peth da yw i ddyn beidio â chyffwrdd â gwraig.

2. Ond oherwydd yr anfoesoldeb rhywiol sy'n bod, bydded gan bob dyn ei wraig ei hun, a chan bob gwraig ei gŵr ei hun.

3. Dylai'r gŵr roi i'r wraig yr hyn sy'n ddyledus iddi, a'r un modd y wraig i'r gŵr.

4. Nid y wraig biau'r hawl ar ei chorff ei hun, ond y gŵr. A'r un modd, nid y gŵr biau'r hawl ar ei gorff ei hun, ond y wraig.

5. Peidiwch â gwrthod eich gilydd, oddieithr, efallai, ichwi gytuno ar hyn dros dro er mwyn ymroi i weddi, ac yna dod ynghyd eto, rhag i Satan eich temtio oherwydd eich diffyg ymatal.

6. Ond fel goddefiad yr wyf yn dweud hyn, nid fel gorchymyn.

7. Carwn pe bai pawb fel yr wyf fi fy hunan; ond y mae gan bob un ei ddawn ei hun oddi wrth Dduw, y naill fel hyn a'r llall fel arall.

8. Yr wyf yn dweud wrth y rhai dibriod, a'r gwragedd gweddwon, mai peth da fyddai iddynt aros felly, fel finnau.

9. Ond os na allant ymatal, dylent briodi, oherwydd gwell priodi nag ymlosgi.

10. I'r rhai sydd wedi priodi yr wyf fi'n gorchymyn—na, nid fi, ond yr Arglwydd—nad yw'r wraig i ymadael â'i gŵr;

11. ond os bydd iddi ymadael, dylai aros yn ddibriod, neu gymodi â'i gŵr. A pheidied y gŵr ag ysgaru ei wraig.

12. Wrth y lleill yr wyf fi, nid yr Arglwydd, yn dweud: os bydd gan Gristion wraig ddi-gred, a hithau'n cytuno i fyw gydag ef, ni ddylai ei hysgaru.

13. Ac os bydd gan wraig ŵr di-gred, ac yntau'n cytuno i fyw gyda hi, ni ddylai ysgaru ei gŵr.

14. Oherwydd y mae'r gŵr di-gred wedi ei gysegru trwy ei wraig, a'r wraig ddi-gred wedi ei chysegru trwy ei gŵr o Gristion. Onid e, byddai eich plant yn halogedig. Ond fel y mae, y maent yn sanctaidd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 7