Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 3:6-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

6. Myfi a blannodd, Apolos a ddyfrhaodd, ond Duw oedd yn rhoi'r tyfiant.

7. Felly, nid yw'r sawl sy'n plannu yn ddim, na'r sawl sy'n dyfrhau, ond Duw, rhoddwr y tyfiant.

8. Yr un sy'n plannu a'r un sy'n dyfrhau, un ydynt, ac fe dderbyn y naill a'r llall ei dâl ei hun, yn ôl ei lafur ei hun.

9. Canys eiddo Duw ydym ni, fel cydweithwyr; gardd Duw, adeiladwaith Duw, ydych chwi.

10. Yn ôl y gorchwyl a roddodd Duw i mi o'i ras, mi osodais sylfaen, fel prifadeiladydd celfydd, ac y mae rhywun arall yn adeiladu arni. Gwylied pob un pa fodd y mae'n adeiladu arni.

11. Ni all neb osod sylfaen arall yn lle'r un sydd wedi ei gosod, ac Iesu Grist yw honno.

12. Os bydd i neb adeiladu ar y sylfaen ag aur, arian, a meini gwerthfawr, neu â choed, gwair, a gwellt,

13. daw gwaith pob un i'r amlwg, oherwydd y Dydd a'i dengys. Canys â thân y datguddir y Dydd hwnnw, a bydd y tân yn profi ansawdd gwaith pob un.

14. Os bydd y gwaith a adeiladodd rhywun ar y sylfaen yn aros, caiff dâl.

15. Os llosgir gwaith rhywun, caiff ddwyn y golled, ond fe achubir yr adeiladydd ei hun, ond dim ond megis trwy dân.

16. Oni wyddoch mai teml Duw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo ynoch?

17. Os bydd rhywun yn dinistrio teml Duw, bydd Duw'n ei ddinistrio yntau, oherwydd y mae teml Duw yn sanctaidd, a chwi yw'r deml honno.

18. Peidied neb â'i dwyllo'i hunan; os oes rhywun yn eich plith yn tybio ei fod yn ddoeth yn ôl safonau'r oes hon, bydded ffôl, er mwyn dod yn ddoeth.

19. Oherwydd y mae doethineb y byd hwn yn ffolineb yng ngolwg Duw. Y mae'n ysgrifenedig:“Y mae ef yn dal y doethion yn eu cyfrwystra”,

20. ac eto:“Y mae'r Arglwydd yn gwybod meddyliau'r doethion,mai ofer ydynt.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 3