Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 16:12-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

12. Ynglŷn â'n brawd Apolos, erfyniais yn daer arno i ddod atoch gyda'r lleill, ond nid oedd yn fodlon o gwbl ddod ar hyn o bryd. Ond fe ddaw pan fydd gwell cyfle.

13. Byddwch yn wyliadwrus, safwch yn gadarn yn y ffydd, byddwch yn wrol, ymgryfhewch.

14. Popeth a wnewch, gwnewch ef mewn cariad.

15. Gwyddoch am deulu Steffanas, mai hwy oedd Cristionogion cyntaf Achaia, a'u bod wedi ymroi i weini ar y saint.

16. Yr wyf yn erfyn arnoch, gyfeillion, i ymostwng i rai felly, a phawb sydd yn cydweithio ac yn llafurio gyda ni.

17. Yr wyf yn llawenhau am fod Steffanas a Ffortwnatus ac Achaicus wedi dod, oherwydd y maent wedi cyflawni yr hyn oedd y tu hwnt i'ch cyrraedd chwi.

18. Y maent wedi esmwytho ar fy ysbryd i, a'ch ysbryd chwithau hefyd. Cydnabyddwch rai felly.

19. Y mae eglwysi Asia yn eich cyfarch. Y mae Acwila a Priscila, gyda'r eglwys sy'n ymgynnull yn eu tŷ, yn eich cyfarch yn gynnes yn yr Arglwydd.

20. Y mae'r credinwyr i gyd yn eich cyfarch. Cyfarchwch eich gilydd â chusan sanctaidd.

21. Y mae'r cyfarchiad hwn yn fy llaw i fy hun, Paul.

22. Os oes rhywun nad yw'n caru'r Arglwydd, bydded dan felltith. Marana tha.

23. Gras yr Arglwydd Iesu fyddo gyda chwi!

24. Fy nghariad innau fyddo gyda chwi oll, yng Nghrist Iesu!

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 16