Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 12:8-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

8. Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn ôl yr un Ysbryd;

9. i un arall rhoddir ffydd, trwy'r un Ysbryd; i un arall ddoniau iacháu, trwy'r un Ysbryd;

10. i un arall gyflawni gwyrthiau, i un arall broffwydo, i un arall wahaniaethu rhwng ysbrydoedd, i un arall lefaru â thafodau, i un arall ddehongli tafodau.

11. A'r holl bethau hyn, yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn eu gweithredu, gan rannu, yn ôl ei ewyllys, i bob un ar wahân.

12. Oherwydd fel y mae'r corff yn un, a chanddo lawer o aelodau, a'r rheini oll, er eu bod yn llawer, yn un corff, fel hyn y mae Crist hefyd.

13. Oherwydd mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb ohonom un Ysbryd i'w yfed.

14. Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer.

15. Os dywed y troed, “Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff.

16. Ac os dywed y glust, “Gan nad wyf yn llygad, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff.

17. Petai'r holl gorff yn llygad, lle byddai'r clyw? Petai'r cwbl yn glyw, lle byddai'r arogli?

18. Ond fel y mae, gosododd Duw yr aelodau, bob un ohonynt, yn y corff fel y gwelodd ef yn dda.

19. Pe baent i gyd yn un aelod, lle byddai'r corff?

20. Ond fel y mae, llawer yw'r aelodau, ond un yw'r corff.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 12