Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 12:24-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

24. Ond nid oes ar ein haelodau gweddus angen hynny. Gosododd Duw y corff wrth ei gilydd, gan roi parchusrwydd neilltuol i'r aelod oedd heb ddim parch,

25. rhag bod ymraniad yn y corff, ac er mwyn i'r holl aelodau gymryd yr un gofal dros ei gilydd.

26. Os bydd un aelod yn dioddef, y mae pob aelod yn cyd-ddioddef; neu os bydd un aelod yn cael ei anrhydeddu, y mae pob aelod yn cydlawenhau.

27. Yn awr, chwi yw corff Crist, ac y mae i bob un ohonoch ei le fel aelod.

28. Ymhlith y rhain y mae Duw wedi gosod yn yr eglwys, yn gyntaf apostolion, yn ail broffwydi, yn drydydd athrawon, yna cyflawni gwyrthiau, yna doniau iacháu, cynorthwyo, cyfarwyddo, llefaru â thafodau.

29. A yw pawb yn apostol? A yw pawb yn broffwyd? A yw pawb yn athro? A yw pawb yn cyflawni gwyrthiau?

30. A oes gan bawb ddoniau iacháu? A yw pawb yn llefaru â thafodau? A yw pawb yn dehongli?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 12