Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 12:2-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Fe wyddoch sut y byddech yn cael eich ysgubo i ffwrdd at eilunod mud, pan oeddech yn baganiaid.

3. Am hynny, yr wyf yn eich hysbysu nad yw neb sydd yn llefaru trwy Ysbryd Duw yn dweud, “Melltith ar Iesu!” Ac ni all neb ddweud, “Iesu yw'r Arglwydd!” ond trwy yr Ysbryd Glân.

4. Y mae amrywiaeth doniau, ond yr un Ysbryd sy'n eu rhoi;

5. ac y mae amrywiaeth gweinidogaethau, ond yr un Arglwydd sy'n eu rhoi;

6. ac y mae amrywiaeth gweithrediadau, ond yr un Duw sydd yn gweithredu pob peth ym mhawb.

7. Rhoddir amlygiad o'r Ysbryd i bob un, er lles pawb.

8. Oherwydd fe roddir i un, trwy'r Ysbryd, lefaru doethineb; i un arall, lefaru gwybodaeth, yn ôl yr un Ysbryd;

9. i un arall rhoddir ffydd, trwy'r un Ysbryd; i un arall ddoniau iacháu, trwy'r un Ysbryd;

10. i un arall gyflawni gwyrthiau, i un arall broffwydo, i un arall wahaniaethu rhwng ysbrydoedd, i un arall lefaru â thafodau, i un arall ddehongli tafodau.

11. A'r holl bethau hyn, yr un a'r unrhyw Ysbryd sydd yn eu gweithredu, gan rannu, yn ôl ei ewyllys, i bob un ar wahân.

12. Oherwydd fel y mae'r corff yn un, a chanddo lawer o aelodau, a'r rheini oll, er eu bod yn llawer, yn un corff, fel hyn y mae Crist hefyd.

13. Oherwydd mewn un Ysbryd y cawsom i gyd ein bedyddio i un corff, boed yn Iddewon neu yn Roegiaid, yn gaethweision neu yn rhyddion, a rhoddwyd i bawb ohonom un Ysbryd i'w yfed.

14. Oherwydd nid un aelod yw'r corff, ond llawer.

15. Os dywed y troed, “Gan nad wyf yn llaw, nid wyf yn rhan o'r corff”, nid yw am hynny heb fod yn rhan o'r corff.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 12