Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 11:20-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

20. Felly, pan fyddwch yn ymgynnull, nid swper yr Arglwydd y byddwch yn ei fwyta,

21. oherwydd yn y bwyta y mae pob un yn rhuthro i gymryd ei swper ei hun, ac y mae eisiau bwyd ar un, ac un arall yn feddw.

22. Onid oes gennych dai i fwyta ac yfed ynddynt? Neu a ydych yn mynnu dirmygu eglwys Dduw, a pheri cywilydd i'r rhai sydd heb ddim? Beth a ddywedaf wrthych? A wyf i'ch canmol? Yn hyn o beth, nid wyf yn eich canmol.

23. Oherwydd fe dderbyniais i oddi wrth yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi: i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara;

24. ac wedi iddo ddiolch, fe'i torrodd, a dweud, “Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf.”

25. Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan, ar ôl swper, gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. Gwnewch hyn, bob tro yr yfwch ef, er cof amdanaf.”

26. Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta'r bara hwn ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw.

27. Felly, pwy bynnag fydd yn bwyta'r bara neu'n yfed cwpan yr Arglwydd yn annheilwng, bydd yn euog o drosedd yn erbyn corff a gwaed yr Arglwydd.

28. Bydded i bob un ei holi ei hunan, ac felly bwyta o'r bara ac yfed o'r cwpan.

29. Oherwydd y mae'r sawl sydd yn bwyta ac yn yfed, os nad yw'n dirnad y corff, yn bwyta ac yn yfed barn arno'i hun.

30. Dyna pam y mae llawer yn eich plith yn wan ac yn glaf, a chryn nifer wedi marw.

31. Ond pe baem yn ein barnu ein hunain yn iawn, ni fyddem yn dod dan farn.

32. Ond pan fernir ni gan yr Arglwydd, cael ein disgyblu yr ydym, rhag i ni gael ein condemnio gyda'r byd.

33. Felly, fy nghyfeillion, pan fyddwch yn ymgynnull i fwyta, arhoswch am eich gilydd.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 11