Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 11:1-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Byddwch yn efelychwyr ohonof fi, fel yr wyf finnau o Grist.

2. Yr wyf yn eich canmol chwi am eich bod yn fy nghofio ym mhob peth, ac yn cadw'r traddodiadau fel y traddodais hwy ichwi.

3. Ond yr wyf am ichwi wybod mai pen pob gŵr yw Crist, ac mai pen y wraig yw'r gŵr, ac mai pen Crist yw Duw.

4. Y mae pob gŵr sy'n gweddïo neu'n proffwydo â rhywbeth am ei ben yn gwaradwyddo'i ben.

5. Ond y mae pob gwraig sy'n gweddïo neu'n proffwydo heb orchudd ar ei phen yn gwaradwyddo'i phen; y mae hi'n union fel merch sydd wedi ei heillio.

6. Oherwydd os yw gwraig heb orchuddio'i phen, yna fe ddylai hi dorri ei gwallt yn llwyr. Ond os yw'n waradwydd i wraig dorri ei gwallt neu eillio ei phen, fe ddylai hi wisgo gorchudd.

7. Ni ddylai gŵr orchuddio'i ben, ac yntau ar ddelw Duw ac yn ddrych o'i ogoniant ef. Ond drych o ogoniant y gŵr yw'r wraig.

8. Oherwydd nid y gŵr a ddaeth o'r wraig, ond y wraig o'r gŵr.

9. Ac ni chrewyd y gŵr er mwyn y wraig, ond y wraig er mwyn y gŵr.

10. Am hynny, dylai'r wraig gael arwydd awdurdod ar ei phen, o achos yr angylion.

11. Beth bynnag am hynny, yn yr Arglwydd y mae'r gŵr yn angenrheidiol i'r wraig a'r wraig yn angenrheidiol i'r gŵr.

12. Oherwydd fel y daeth y wraig o'r gŵr, felly hefyd y daw'r gŵr drwy'r wraig. A daw'r cwbl o Dduw.

13. Barnwch drosoch eich hunain: a yw'n weddus i wraig weddïo ar Dduw heb orchudd ar ei phen?

14. Onid yw natur ei hun yn eich dysgu mai anfri yw i ddyn dyfu ei wallt yn hir,

15. ond mai gogoniant gwraig yw tyfu ei gwallt hi'n hir? Oherwydd rhoddwyd ei gwallt iddi hi i fod yn fantell iddi.

16. Ond os myn neb fod yn gecrus, nid oes gennym ni unrhyw arfer o'r fath, na chan eglwysi Duw chwaith.

17. Ond wrth eich cyfarwyddo, dyma rywbeth nad wyf yn ei ganmol ynoch, eich bod yn ymgynnull, nid er gwell, ond er gwaeth.

18. Yn gyntaf, pan fyddwch yn ymgynnull fel eglwys, yr wyf yn clywed bod ymraniadau yn eich plith, ac rwy'n credu bod peth gwir yn hyn.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 11