Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 10:26-30 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

26. Oherwydd eiddo'r Arglwydd yw'r ddaear a'i llawnder.

27. Os cewch wahoddiad gan anghredadun, ac os oes awydd arnoch fynd, bwytewch bopeth a osodir ger eich bron, heb holi'n fanwl yn ei gylch ar dir cydwybod.

28. Ond os dywed rhywun wrthych, “Peth wedi ei offrymu yn aberth yw hwn”, peidiwch â'i fwyta, er mwyn y sawl a alwodd eich sylw at y peth, ac er mwyn cydwybod;

29. nid eich cydwybod chwi yr wyf yn ei olygu, ond cydwybod y llall. Pam, yn wir, y mae fy rhyddid i yn cael ei farnu gan gydwybod rhywun arall?

30. Os wyf fi'n cymryd fy mwyd â diolch, pam y ceir bai arnaf ar gyfrif bwyd yr wyf yn diolch i Dduw amdano?

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 10