Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 10:17-25 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Gan mai un yw'r bara, yr ydym ni, a ninnau'n llawer, yn un corff, oherwydd yr ydym i gyd yn cyfranogi o'r un bara.

18. Edrychwch ar yr Israel hanesyddol. Onid yw'r rhai sy'n bwyta'r ebyrth yn gyfranogion o'r allor?

19. Beth, felly, yr wyf yn ei ddweud? Bod bwyd sydd wedi ei aberthu i eilunod yn rhywbeth? Neu fod eilun yn rhywbeth?

20. Nage, ond mai i gythreuliaid, ac nid i Dduw, y maent yn aberthu eu hebyrth, ac na fynnwn i chwi fod yn gyfranogion o gythreuliaid.

21. Ni allwch yfed cwpan yr Arglwydd a chwpan cythreuliaid; ni allwch gyfranogi o fwrdd yr Arglwydd ac o fwrdd cythreuliaid.

22. A ydym yn mynnu cyffroi eiddigedd yr Arglwydd? A ydym yn gryfach nag ef?

23. “Y mae popeth yn gyfreithlon,” meddwch; ond nid yw popeth er lles. “Y mae popeth yn gyfreithlon,” meddwch; ond nid yw popeth yn adeiladu.

24. Peidied neb â cheisio'i les ei hun, ond lles ei gymydog.

25. Bwytewch bopeth a werthir yn y farchnad gig, heb holi'n fanwl yn ei gylch ar dir cydwybod.

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 10