Hen Destament

Testament Newydd

1 Corinthiaid 1:23-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

23. Eithr nyni, pregethu yr ydym Grist wedi ei groeshoelio, yn dramgwydd i'r Iddewon ac yn ffolineb i'r Cenhedloedd;

24. ond i'r rhai a alwyd, yn Iddewon a Groegiaid, y mae'n Grist, gallu Duw a doethineb Duw.

25. Oherwydd y mae ffolineb Duw yn ddoethach na doethineb ddynol, a gwendid Duw yn gryfach na chryfder dynol.

26. Ystyriwch sut rai ydych chwi a alwyd, gyfeillion: nid oes rhyw lawer ohonoch yn ddoeth yn ôl safon y byd, nid oes rhyw lawer yn meddu awdurdod, nid oes rhyw lawer o dras uchel.

27. Ond pethau ffôl y byd a ddewisodd Duw er mwyn cywilyddio'r doeth, a phethau gwan y byd a ddewisodd Duw i gywilyddio'r pethau cedyrn,

28. a phethau distadl y byd, a phethau dirmygedig, a ddewisodd Duw, y pethau nid ydynt, i ddiddymu'r pethau sydd.

29. Ac felly, ni all neb ymffrostio gerbron Duw.

30. Ond trwy ei weithred ef yr ydych chwi yng Nghrist Iesu, yr hwn a wnaed yn ddoethineb i ni oddi wrth Dduw, yn gyfiawnder a sancteiddhad a phrynedigaeth.

31. Felly, fel y mae'n ysgrifenedig, “Y sawl sy'n ymffrostio, ymffrostied yn yr Arglwydd.”

Darllenwch bennod gyflawn 1 Corinthiaid 1