Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 97:1-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; gorfoledded y ddaear,bydded ynysoedd lawer yn llawen.

2. Y mae cymylau a thywyllwch o'i amgylch,cyfiawnder a barn yn sylfaen i'w orsedd.

3. Y mae tân yn mynd o'i flaen,ac yn llosgi ei elynion oddi amgylch.

4. Y mae ei fellt yn goleuo'r byd,a'r ddaear yn gweld ac yn crynu.

5. Y mae'r mynyddoedd yn toddi fel cwyr o flaen yr ARGLWYDD,o flaen Arglwydd yr holl ddaear.

6. Y mae'r nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,a'r holl bobloedd yn gweld ei ogoniant.

7. Bydded cywilydd ar yr holl addolwyr delwausy'n ymffrostio mewn eilunod;ymgrymwch iddo ef, yr holl dduwiau.

8. Clywodd Seion a llawenhau,ac yr oedd trefi Jwda yn gorfoledduo achos dy farnedigaethau, O ARGLWYDD.

9. Oherwydd yr wyt ti, ARGLWYDD, yn oruchaf dros yr holl ddaear;yr wyt wedi dy ddyrchafu'n uwch o lawer na'r holl dduwiau.

10. Y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai sy'n casáu drygioni,y mae'n cadw bywydau ei ffyddloniaid,ac yn eu gwaredu o ddwylo'r drygionus.

11. Heuwyd goleuni ar y cyfiawn,a llawenydd ar yr uniawn o galon.

12. Llawenhewch yn yr ARGLWYDD, rai cyfiawn,a moliannwch ei enw sanctaidd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 97