Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 93:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae'r ARGLWYDD yn frenin; y mae wedi ei wisgo â mawredd,y mae'r ARGLWYDD wedi ei wisgo, a nerth yn wregys iddo.Yn wir, y mae'r byd yn sicr, ac nis symudir;

2. y mae dy orsedd wedi ei sefydlu erioed;yr wyt ti er tragwyddoldeb.

3. Cododd y dyfroedd, O ARGLWYDD,cododd y dyfroedd eu llais,cododd y dyfroedd eu rhu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 93